Adventa
Mae Adventa yn ddatblygiad gwledig sydd yn rhoi cefnogaeth a chyngor i fusnesau yn Sir Fynwy. Mae’n gweithio yn uniongyrchol â chymunedau a busnesau i gyflwyno a hyrwyddo rhaglenni sy’n greadigol ac yn aml yn unigryw.
Cafodd y brand ‘Gwnaed yn Sir Fynwy’ ei greu gan Adventa yn 2006 ac mae’n canolbwyntio ar nwyddau sydd wedi eu creu yn lleol gan ddefnyddio adnoddau cynaladwy. Mae’r fenter yn dathlu talentau creadigol gan artistiaid a chynhyrchwyr lleol, a’u rôl nhw wrth gadw traddodiadau sydd wedi siapio tirwedd yr ardal dros y canrifoedd. Mae’n hyrwyddo celf o safon uchel, crefftau a chynyrch sydd yn cefnogi’r economi wledig trwy annog ymwelwyr a phobl leol i brynu cynnyrch lleol.
Mae Adventa yn gweithio yn agos gyda thîm twristiaeth Sir Fynwy ac wedi bod yn hyrwyddo’r tai bwyta gwych yn yr ardal ers sawl blwyddyn. Mae cylchgrawn eleni wedi ei gynhyrchu fisoedd yn unig ar ôl ennill gwobr Gwir Flas, ac mae’r elfen fwyd yn amlwg iawn.
http://www.selectbrochure.com/pub/23/
Fe roddodd y wobr gyfle unigryw i Adventa hyrwyddo’r ardal, ei chynhyrchwyr a’i thai bwyta fel lle o safon i ymwelwyr, yn ogystal â sylfaen i adeiladu ymhellach ar eu llwyddiant i’r dyfodol.
Cyflenwyr: www.mim.adventa.org.uk
|