CYNHYRCHWYR YN DATHLU GWOBRAU BWYD A DIOD CYMRU
Y GWIR FLAS 2009/10
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod yn dathlu eu llwyddiant yng ngwobrau ‘Oscar’ diwydiant bwyd Cymru – Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2009/10.
Cyflwynwyd y gwobrau neithiwr (19 Tachwedd) mewn seremoni yn adeilad hanesyddol Neuadd y Farchnad Y Fenni dan arweiniad Sarah Dickins, sydd wedi ennill gwobrau fel cyflwynwraig teledu a radio.
Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, mae’r gwobrau – a reolir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru – yn adlewyrchu’r gofynion cynyddol gan ddefnyddwyr am gynnyrch lleol ynghyd â rhai yn y farchnad allforio. Gwelodd gwobrau 2009/10 tua 860 o geisiadau gan dros 400 o gwmnïau, dros hanner cynhyrchwyr Cymru.
Sefydlwyd y gwobrau, sydd â beirniaid annibynnol, i gydnabod a gwobrwyo ansawdd ac arloesedd ar draws y sectorau bwyd a diod a lletygarwch.
Eleni roedd 18 categori gwobrau ar gyfer pob maes o’r sectorau cynhyrchu bwyd a diod, manwerthu a lletygarwch, yn ogystal â Chategori Llwyddiant Allforio newydd, a enillwyd gan gwmni Halen Môn.
Dywedodd Elin Jones, Gweinidog Materion Gwledig: “Mae Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas yn ddigwyddiad gwych i arddangos diwydiant bwyd a diod Cymru. Unwaith eto mae’r Gwobrau wedi dangos yn union faint o fwyd ansawdd uchel sydd ar gael yma, a hoffwn longyfarch pawb a enillodd wobr.
“Yn gynharach eleni lansiais ein Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol sy’n annog pob un ohonom i brynu mwy o fwyd o Gymru. Mae cynifer o fanteision mewn prynu’n lleol: o ostwng taith bwyd a chefnogi’r economi lleol, i’r sicrwydd sy’n dod o wybod o ble daw ein bwyd a sut y cafodd ei gynhyrchu.
“Hanfod ein Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd yw gwella profiadau myfyrwyr yng Nghymru fel cyrchfan lle mae bwyd ansawdd uchel a neilltuol ar gael yn eang yn ein caffes, bwytai, tafarndai, gwestai a thai llety.
“Rydym eisiau sicrhau fod ein hymwelwyr yn cael profiad bwyd rhagorol yn seiliedig ar fwyd lleol a neilltuol. Yn 2008 am y tro cyntaf, cynhwyswyd y Gyrchfan Twristiaeth Bwyd yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas a bydd enillwyr eleni - Cyngor Sir Benfro - yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r rhagoriaeth safleoedd Twristiaeth Bwyd ym mhob rhan o Gymru.”
Enillodd nifer o gwmnïau fwy na un wobr, yn cynnwys Hufenfa De Arfon, Penrhiw Farm Organic Meat, Oaklands Organics, Gill’s Plaice, Greta’s Wholefoodies, a Hafod Welsh Organic Cheddar. Roedd yn noson arbennig o dda i Primrose Organic Centre a enillodd wobrau mewn sawl categori.
Deiniol ap Dafydd o Blas ar Fwyd Cyf yn Llanrwst enillodd brif wobr y noson, Pencampwr y Gwir Flas.